Welsh Town Trail

 

1  Cei’r De

Anodd dychmygu’r Cei yn fwrlwm o fywyd ar un adeg. Dim ond tafarn y Royal George a Thŷ’r Badau sy wedi goroesi o blith yr adeiladau a arferai fod o dan Furiau’r Dref - ger y llithrffordd gwelir ffurfydd y saer olwynion wedi’i osod yn y ddaear.

 

2 Ogof Wogan

Yr ogof naturiol hon, ar waelod y castell, yw preswylfa gynharaf Penfro yn ôl pob tebyg am fod yno dystiolaeth o bobloedd cynhanes yn preswylio yno. Cafodd yr agoriad ei gau’n rhannol gan y Normaniaid a gwnaed grisiau troellog i’r castell uwchben.  Credir i’r ogof gael ei defnyddio fel storfa a lle i gadw badau.

 

3 Pont Cil-maen

Pont Cil-maen roddai fynediad i’r dref o’r gorllewin ar draws y rhan o’r aber a ddiogelai’r dref ar yr ochr honno. Dyma leoliad cei cynharaf Penfro ac er iddo ddirywio pan ddatblygwyd dau brif gei’r dref roedd yn parhau’n ardal fasnachol bwysig am fod yno ystordai ac iard fadau.

 

4 Hen Neuadd Cil-maen

Codwyd y Neuadd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ganrif ddilynol er mae’r gladdgell gromennog a’r is-grofft yn dyddio o gyfnod cynt. Yng nghefn y Neuadd gwelir simdde Ffleminaidd gron amlwg. Ceir llawer o ychwanegiadau, addasiadau ac adferiadau diweddarach. Cafodd yr eiddo ei adfer yn llwyr gan Ymddiriedolaeth Tirnod ac mae’r Ymddiriedolaeth yn ei osod fel llety gwyliau. Credir bod y Neuadd yn dŷ croeso ar gyfer ymwelwyr o bwys a ddeuai i’r Priordy.

 

5 Eglwys y Priordy 

Mae eglwys Briordy Sant Niclas a Sant Ioan yn rhan o’r Priordy Benedictaidd a roddwyd i Abaty Seez yn Normandi yn 1098. Fe’i sefydlwyd ar safle anheddiad Cristnogol cynharach ond fe’i hanrheithiwyd yn 1536 pan benderfynodd Harri VIII ddiddymu’r  mynachlogydd. Fe’i difrodwyd ymhellach o dan law Oliver Cromwell yn 1648. Adferwyd yr eglwys yn y 1880au.

 

6 Y Priordy

Ychydig o fwâu ar eu pennau eu hunain a wal dalcen yw unig weddillion adeiladau’r Priordy heblaw am yr hyn sy wedi’i gynnwys yn rhan o’r Eglwys Briordy. Dengys lluniau o’r awyr a ffurfiau’r ddaear fod yna olion sylfeini helaeth yn dal yno.

7 Ffermdy’r Priordy

Mae’r ffermdy hwn ar ffurf maenordy neu dŷ tŵr o’r bedwaredd ganrif ar ddeg neu’r bymthegfed ganrif ynghyd ag ychwanegiadau diweddar. Credir mai hwn oedd hen Faenordy’r Priordy. Yn y caeau i’r gorllewin o’r ffermdy gwelir colomendy canoloesol a fyddai wedi bod yn allweddol i gyflenwi cig ffres i’r Priordy yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae 6 a 7 mewn perchnogaeth breifat a does dim mynediad cyhoeddus.

 

8 Rhiw Westgate

Yn y fan hon gwelir mangre’r bwa a ffurfiai’r Hen Glwyd Orllewinol i’r dref wrth i fur y dref ymestyn ar draws at dŵr cornel y castell. Y rhes o fythynnod canoloesol ar hyd y bwa yw’r tai hynaf yn y dref. Gwelir is-grofft gromennog yn un ohonynt ac mae’r cylchoedd haearn yn y muriau’n awgrymu mai hwn o bosib oedd carchar y dref.

 

9 Mynediad Hir

Ar safle’r maes parcio presennol, tan y 1950au, roedd yna gidel gul lle’r oedd yna deras o fythynnod bychain - elusendai’n wreiddiol - ar bob ochr. Ym mhen pellaf y safle roedd y glwyd gilborth wreiddiol, y glwyd fechan ar gyfer cerddwyr ar yr ochr ddeheuol, a gwelir nifer o henebion diddorol ar hyd y muriau. Yn y tŵr anferth ceir wyth o glychau, y cynharaf yn dyddio o 1763.

Wrth ymyl yr eglwys mae’r Clocdy lle arferid cynnal marchnad agored yn y stryd. Cafodd hwn ei gau i’w ffurf bresennol pan ailadeiladwyd y tŵr yn yr 1880au. Ar y tŵr ceir dau geriwb plwm: honnir bod yna bedwar ceriwb, un ar bob cornel, ond roedd awdurdodau’r eglwys yn gwrthwynebu’r bechgyn noeth yn wynebu’r eglwys yn y cefn ac fe’u gwaredwyd.

 

11 Neuadd y Dref

Ar fur Neuadd y Dref ceir cerfwedd o arfbais y dref sy’n cynnwys yr arwyddair Ffrangeg Normanaidd "Gwasanaethwn fel Un". Ar un adeg roedd yr adeilad yn agored i’r stryd. Roedd yna risiau allanol yn arwain i’r ystafelloedd llys uwchben ac yna neuadd farchnad fawr yn y cefn sy bellach wedi’i disodli gan neuadd ddinesig newydd. Yn Neuadd y Dref y cedwir Murluniau Penfro o waith George a Jeanne Lewis – hanes darluniadol Penfro, gweler isod ar y dde. Ar agor o 9 y bore.

 

 

12 Tafarndy Efrog

Tafarndy Efrog (preswylfa breifat erbyn hyn) oedd un o dafarndai hynaf y dref ynghyd â’r hyn a gredir oedd yn Gapel Canoloesol yn y cefn. Arferid ei ddefnyddio fel tŷ cwrdd gan y Wesleaid lle bu John Wesley ei hun yn pregethu. Wrth edrych ar draws y bryniau i’r de gwelir eglwys hynafol Sant Daniel, wedi’i hadeiladu ar y safle lle’r oedd y meudwy Deiniol, yn byw yn y chweched ganrif.

 

13 Yr Odyn Galch

Gwelir odynnau calch tebyg i hon ar hyd arfordir Sir Benfro. Ar un adeg byddai’n bosib mordwyo’r dyfroedd yn y fan hon. Roedd galw mawr am galch wedi’i losgi i’w ddefnyddio fel achles ac ar gyfer gwneud morter.

 

14 Y Tŵr Gynnau neu’r Tŵr Amddiffyn

Un o’r chwech o dyrau ystlys a warchodai furiau’r dref rhag ymosodiad. Roedd dau o dyrau muriau’r de hefyd yn gwarchod ffynhonnau fyddai ar gael at ddefnydd y dref petai o dan warchae. 

 

15 Tŵr Gasibo neu’r Tŵr Amddiffyn

Gosodwyd tŷ haf neu gasibo ar ben y tŵr amddiffyn canoloesol hwn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

 

16 Feidr Gwyddau

Mae Feidr Gwyddau’n dilyn llwybr hen fur y dref. Credir bod gwyddau’n cael eu gyrru i’r Cwmins lle cynhelid ffeiriau creaduriaid (roedd yna dŵr arall fan hyn ar un adeg).

 

17 Sgwâr Pen Dwyreiniol

Sgwâr Pen Dwyreiniol yw safle hen Glwyd Ddwyreiniol y dref. Cafodd ei dinistrio ar orchymyn Oliver Cromwell yn 1648.  Hon oedd y cryfaf o’r clwydi – yn debyg iawn i’r Pum Bwa yn Ninbych-y-pysgod.

 

18 Tai Sioraidd Stryd Fawr

Mae’r rhain yn enghreifftiau da o gynllunio Sioraidd o gyfnod llewyrchus Penfro yn y gorffennol. Yn y wal yn rhif 111 gwelir hen beiriant post ceiniog.

 

19 Capel y Methodistiaid Wesleaidd

Wedi’i godi ar safle tŷ cwrdd Methodistaidd cynharach a godwyd yn 1822. Cafodd yr adeilad crand hwn ei godi yn yr 1860au mewn arddull Eidalaidd. Roedd hwn yn gyfnod o godi capeli mawreddog ym Mhenfro.  Roedd capeli’r enwadau eraill yr un mor drawiadol; Bedyddwyr (Mount Pleasant, East Back), Annibynwyr (Tabernacle, Stryd Fawr) a’r Calfiniaid (Westgate, Pont Cil-maen).

Gerllaw, y tu fas i’r Old Cross Saws, y safai un o ddwy groes pregethu’r dref.

 

21 East Back

Arferai fod yn rhan bwysig o’r dref lle’r oedd yna ddau gapel yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gorsaf heddlu, ysbyty a gwaith peirianyddol Stephens (Cartref erbyn hyn) ynghyd â gwaith sgrôl haearn bwrw gwych. Chwiliwch am ddwrn y plentyn.

 

22 Eglwys Sant Mihangel

Eglwys Normanaidd yn wreiddiol gyda “thŵr crablyd". Fe’i hailgodwyd yn 1835 ac eto yn 1887. Ceir rhai henebion diddorol yn y festri a’r bysgodfa.

 

23 Tŵr Barnard

Codwyd Tŵr Barnard yn y drydedd a’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Roedd yn Dŵr Amddiffyn enfawr yn medru lletya garsiwn gyfan. Byddai’n amddiffyn ochr ddwyreiniol fregus Penfro. Heddiw mae’n gartref i haid o ystlumod Daubentons.

 

24 Llyn y Felin

Arferai fod yn gilfach llanw ond fe’i gwnaed yn llyn er mwyn rhoi pŵer i’r Felin Ŷd ar Bont y Felin. Mae’n hafan i fywyd gwyllt - ffurfiwyd Llyn y Felin Uchaf pan godwyd yr arglawdd rheilffordd yn y 1850au.

 

25 Fferm Aur

Defnyddiwyd Fferm Aur yn garchar ar gyfer y milwyr Ffrengig a ddaliwyd ger Abergwaun wedi’r ymgais olaf i oresgyn Prydain yn 1797.

 

26 Yr Hen Wyrcws/ Cartref Glanrafon

Fe’i codwyd yn unol â gofynion Deddf y Tlodion 1834 a’i alw’n Wyrcws Undeb Penfro. Yn ddiweddarach fe’i defnyddiwyd fel uned mamolaeth, swyddfa Gwasanaethau Cymdeithasol a chartref i’r henoed.

 

27 Clwyd y Gogledd a’r Felin Ŷd

Lleolwyd Hen Glwyd y Gogledd ar waelod Feidr Dywyll (ei henw yw Stryd Northgate heddiw) yn ymestyn ar draws o Dafarn y Royal George. Fe’i dymchwelwyd yn 1820 i ledu’r ffordd mewn cyfnod o lewyrch a chynnydd mewn traffig.

Gwrthglawdd llanw oedd y ‘bont’ mewn gwirionedd, wedi’i chodi yn yr Oesoedd Canol i roi pŵer i felin ŷd y dref. Cofnodwyd bod melin yno wedi’i neilltuo i’r Marchogion Temlaidd mor gynnar â 1199. Yn 1956 llosgwyd y felin a does dim ond y sylfeini i’w gweld. Ceir melin debyg, sy’n dal ar ei thraed, yng Nghaeriw gerllaw.

 

Roedd ardal y Cwmins

yn forfa llanw yn wreiddiol yn gwarchod muriau deheuol y dref. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn ganolfan i lawer o fasnach lai atyniadol y dref. Yn eu plith roedd tanerdai, lladd-dy, y gwaith nwy a ffowndri ddur fechan. Wrth ddiwygio’r ardal gwnaed defnydd o’r newydd o rai o’r hen adeiladau. Mae’r ffowndri yn Ganolfan Gymunedol nawr a’r lladd-dy yn rhan o’r Ganolfan Wybodaeth a’r Llyfrgell.

 

Murluniau Neuadd y Dref

Fe’u peintiwyd gan ŵr a gwraig, George a Jeanne Lewis. Mae’r murluniau’n cyflwyno hanes Penfro mewn cyfres o baentiadau unigryw a thrawiadol.

 

Mae Neuadd y Dref ar agor rhwng 9.00 y bore a 13.OO y pnawn o ddydd Llun i ddydd Gwener.